Uwch-swyddog Prosiect – Wolfson

Swansea University

Job title:

Uwch-swyddog Prosiect – Wolfson

Company

Swansea University

Job description

Mae Prifysgol Abertawe’n brifysgol a arweinir gan ymchwil sydd wedi bod yn gwneud gwahaniaeth ers 1920. Mae cymuned y Brifysgol yn ffynnu ar archwilio a darganfod ac mae’n cynnig y cydbwysedd cywir o addysgu ac ymchwil rhagorol i gyd-fynd ag ansawdd bywyd ardderchog.Mae ein campysau glan môr a’n cymuned amlddiwylliannol yn gwneud y Brifysgol yn weithle dymunol i gydweithwyr o bedwar ban byd. Mae ein cydnabyddiaeth a’n buddion, a’n ffyrdd o weithio, yn galluogi i bobl sy’n ymuno â ni i gael gyrfaoedd gwobrwyol, ar y cyd â chydbwysedd gwaith-bywyd rhagorol.Y rôlDyma swydd am gyfnod penodol tan fis Mawrth 2026, yn gweithio 21 awr yr wythnos.Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn gweithio mewn tîm ymchwil iechyd meddwl ffyniannus sydd wedi sicrhau dros £40m mewn cyllid ar y cyd dros y pum mlynedd diwethaf a chanddo bortffolio o brosiectau. Mae’r tîm dan arweiniad yr Athro Ann John ac yn canolbwyntio ar iechyd meddwl plant a’r glasoed ac atal hunanladdiad a hunan-niwed. Yr Athro Ann John yw arweinydd y thema Gwyddor Data yng a Chronfa Ddata Gwybodaeth am Hunanladdiad Cymru ac mae hi’n Brif Ymchwilydd yn y Mae’r Athro Ann John hefyd yn Gyd-gyfarwyddwr , Hyb Ymchwil Data Iechyd y DU ar gyfer Iechyd Meddwl ac mae hi wedi sicrhau cyllid am bum mlynedd arall. Mae hi hefyd yn cyd-arwain thema sydd â’r nod o alluogi technolegau data a digidol i gael eu defnyddio’n effeithlon ac yn gyson wrth ddatblygu a gwerthuso triniaethau newydd ar gyfer anhwylderau iechyd meddwl.Dyma gyfle cyffrous i ymuno â’r tîm a gweithio’n agos gyda rheolwr y prosiect a’r Athro Ann John wrth reoli’r portffolio o brosiectau yn y tîm. Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn gweithio ochr yn ochr â rhanddeiliaid mewnol ac allanol, gan gynnwys pobl â phrofiad personol a gwyddonwyr data, i sicrhau bod yr holl brosiectau’n cyflawni eu DPA yn unol â’r amserlenni a’r cyllidebau y cytunwyd arnynt.Bydd gan ddeiliad y swydd brofiad a gwybodaeth o gyflawni prosiectau, yn ddelfrydol ym meysydd ymchwil i iechyd meddwl, monitro cyllidebau a rhagfynegi a chynllunio prosiectau.Cydraddoldeb, Amrywiaeth a ChynhwysiantMae’r Brifysgol yn ymrwymedig i gefnogi a hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth yn ei holl arferion a gweithgareddau. Rydym yn ymdrechu i greu amgylchedd cynhwysol a chroesawn geisiadau gan ymgeiswyr amrywiol o’r grwpiau nodweddion gwarchodedig canlynol: oedran, anabledd, ailbennu rhywedd, priodas a phartneriaeth sifil, beichiogrwydd a mamolaeth, hil (gan gynnwys lliw croen, cenedligrwydd, tarddiad ethnig a chenedlaethol), crefydd a chred, rhyw, tueddfryd rhywiol.Sgiliau CymraegLefel y sgiliau Cymraeg sydd ei hangen ar gyfer y rôl hon yw Lefel 1 – Ychydig.Mae’r Brifysgol yn sefydliad dwyieithog balch, ac mae Strategaeth Gymraeg y Brifysgol yn amlinellu ein dyheadau i hyrwyddo’r iaith a galluogi ein staff i ddod i gyswllt â’r iaith fel sgil ychwanegol yn y gweithle ac fel porth i gyfleoedd diwylliannol a chymdeithasol newydd. Croesewir ceisiadau yn y Gymraeg ac ni chaiff cais a gyflwynir yn y Gymraeg ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg. Mae gan siaradwyr Cymraeg yr hawl i gael cyfweliad yn Gymraeg. Disgwylir i ymgeiswyr ar gyfer rôl lle mae sgiliau Cymraeg yn hanfodol gyflwyno’u cais yn Gymraeg, a bydd y cyfweliad yn Gymraeg, os byddwch yn cyrraedd y rhestr fer.Gwybodaeth YchwanegolGallwch gyflwyno CV a llythyr eglurhaol ar gyfer y swydd hon.Dylai ymgeiswyr hefyd atodi Rhestr o Gyhoeddiadau i’w cais.

Expected salary

Location

Porth, Rhondda Cynon Taf – Swansea

Job date

Thu, 30 Jan 2025 08:23:01 GMT

To help us track our recruitment effort, please indicate in your email/cover letter where (un-jobs.net) you saw this job posting.

To apply for this job please visit jobviewtrack.com.

Job Location