![Swansea University](https://un-jobs.net/wp-content/plugins/wp-job-manager/assets/images/company.png)
Swansea University
Job title:
Cynorthwy-ydd Ymchwil GamPIT
Company
Swansea University
Job description
Mae Prifysgol Abertawe’n brifysgol a arweinir gan ymchwil sydd wedi bod yn gwneud gwahaniaeth ers 1920. Mae cymuned y Brifysgol yn ffynnu ar archwilio a darganfod ac mae’n cynnig y cydbwysedd cywir o addysgu ac ymchwil rhagorol i gyd-fynd ag ansawdd bywyd ardderchog.Mae ein campysau glan môr a’n cymuned amlddiwylliannol yn gwneud y Brifysgol yn weithle dymunol i gydweithwyr o bedwar ban byd. Mae ein cydnabyddiaeth a’n buddion, a’n ffyrdd o weithio, yn galluogi i bobl sy’n ymuno â ni i gael gyrfaoedd gwobrwyol, ar y cyd â chydbwysedd gwaith-bywyd rhagorol.Y rôlDyma swydd am gyfnod penodol tan 31 Mawrth 2026, yn gweithio 17.5 awr yr wythnos.Nod astudiaeth GamPIT yw datblygu a gwerthuso paradeim Trosglwyddo Cyfryngol Pavlovaidd (PIT). Bydd y rôl yn cynnwys dylunio, rhaglennu a gweithredu arbrofion ymddygiadol ar-lein ac mewn labordy.Rydym yn chwilio am unigolyn disglair, hunangyfeiriedig ac uchel ei gymhelliant sydd â diddordeb mewn cael gyrfa mewn seicoleg glinigol neu arbrofol. Mae un swydd ran-amser (0.5 CALl) ar gael tan fis Mawrth 2026 (yn amodol ar gyllid, gellir estyn y CALl a/neu hyd y contract). Dylai deiliad y swydd feddu ar y gallu i raglennu arbrofion (e.e. gan ddefnyddio Gorilla), recriwtio cyfranogwyr ar-lein (e.e., Prolific) ac wyneb yn wyneb, coladu a dadansoddi data ymddygiadol a chyfrannu at ysgrifennu canfyddiadau. Mae profiad blaenorol o gynnal profion ar-lein ac wyneb yn wyneb ar ymchwil gamblo neu feysydd cysylltiedig a dangos profiad o weithio fel rhan o dîm cydweithredol a chynhyrchiol yn feini prawf dymunol.Cydraddoldeb, Amrywiaeth a ChynhwysiantMae’r Brifysgol yn ymrwymedig i gefnogi a hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth yn ei holl arferion a gweithgareddau. Rydym yn ymdrechu i greu amgylchedd cynhwysol a chroesawn geisiadau gan ymgeiswyr amrywiol o’r grwpiau nodweddion gwarchodedig canlynol: oedran, anabledd, ailbennu rhywedd, priodas a phartneriaeth sifil, beichiogrwydd a mamolaeth, hil (gan gynnwys lliw croen, cenedligrwydd, tarddiad ethnig a chenedlaethol), crefydd a chred, rhyw, tueddfryd rhywiol.Sgiliau CymraegLefel y sgiliau Cymraeg sydd ei hangen ar gyfer y rôl hon yw Lefel 1 – Ychydig.Mae’r Brifysgol yn sefydliad dwyieithog balch, ac mae Strategaeth Gymraeg y Brifysgol yn amlinellu ein dyheadau i hyrwyddo’r iaith a galluogi ein staff i ddod i gyswllt â’r iaith fel sgil ychwanegol yn y gweithle ac fel porth i gyfleoedd diwylliannol a chymdeithasol newydd. Croesewir ceisiadau yn y Gymraeg ac ni chaiff cais a gyflwynir yn y Gymraeg ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg. Mae gan siaradwyr Cymraeg yr hawl i gael cyfweliad yn Gymraeg. Disgwylir i ymgeiswyr ar gyfer rôl lle mae sgiliau Cymraeg yn hanfodol gyflwyno’u cais yn Gymraeg, a bydd y cyfweliad yn Gymraeg, os byddwch yn cyrraedd y rhestr fer.Gwybodaeth YchwanegolGallwch gyflwyno CV a llythyr eglurhaol ar gyfer y swydd hon.Dylai ymgeiswyr hefyd atodi’r canlynol i’w cais:
- Rhestr o gyhoeddiadau (os yw’n berthnasol)
- Datganiad sy’n nodi eich profiad o raglennu, cynnal a dadansoddi arbrofion ymddygiadol.
Expected salary
Location
Porth, Rhondda Cynon Taf – Swansea
Job date
Wed, 12 Feb 2025 08:35:18 GMT
To help us track our recruitment effort, please indicate in your email/cover letter where (un-jobs.net) you saw this job posting.